P-05-982 Dylid ail-agor cyrtiau tenis awyr agored a hyfforddiant yn unol â gweddill y DU ac Ewrop

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Georgina Hawkey, ar ôl casglu cyfanswm o 214 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae tenis ymhlith yr ychydig iawn o chwaraeon lle mae modd cadw pellter cymdeithasol, ac mae’n fath rhagorol o ymarfer corff. Mae hyn yn golygu ei fod yn ddewis arbennig o dda i bobl sydd am ymarfer corff mewn modd diogel yn ystod cyfnod y coronafeirws, gan gefnogi iechyd meddwl a lles corfforol llawer o bobl ifanc ac oedolion. Mae’r Alban, Lloegr a Gorllewin Ewrop wedi ailagor cyrtiau tenis awyr agored a hyfforddiant. Mae’r canlyniadau yn dangos bod ailagor cyrtiau tenis awyr agored wedi bod yn llwyddiannus.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae tenis yn addas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol ac mae tystiolaeth yn y DU a gweddill Ewrop yn dangos bod y gamp yn ddiogel. Bydd oedi pellach yn rhoi straen ariannol ar hyfforddwyr a bydd yn rhoi chwaraewyr o Gymru sy’n cystadlu dan anfantais sylweddol o gymharu â chwaraewyr eraill yn y DU ac Ewrop. Mae hyfforddwyr yn Lloegr, drwy ddilyn rheolau penodol, wedi gallu dechrau hyfforddi'n ddiogel eto, sy’n eu galluogi i gael incwm eto ac yn eu helpu i ddychwelyd i normalrwydd. Os bydd rhagor o oedi, bydd chwaraewyr sy’n cystadlu ymhlith y rhai yr effeithir arnynt fwyaf. Bydd yr oedi pellach hwn yn golygu eu bod yn bell ar ei hôl hi o’u cymharu â chwaraewyr eraill ledled y DU ac Ewrop o ran dychwelyd i ffitrwydd cystadlu, a bydd yn cael effaith ar eu dyfodol o ran cael lle mewn twrnameintiau.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Clwyd

·         Gogledd Cymru